Eglwys

addoldy Cristnogol

Cyfeiria'r gair eglwys at grŵp o bobl o'r grefydd Gristnogol (yn enwedig pan sillafir y gair â phrif lythyren, er enghraifft Yr Eglwys yng Nghymru) neu at yr adeilad lle maent yn addoli. Daw'r gair Cymraeg o'r enw Lladin Diweddar ecclesia (Cernyweg eglos, Hen Wyddeleg eclais). Gall gyfeirio hefyd at y gymuned Gristnogol gyfan, yn arbennig yn ei hanes cynnar; Yr Eglwys Fore yw'r term a ddefnyddir am Gristnogaeth yn y canrifoedd cynnar, dan yr Ymerodraeth Rufeinig.

Basilica Sant Pedr yn y Fatican, Rhufain.

Fel arfer yng Nghymru mae'r gair yn cyfeirio at addoldai Protestannaidd cydumffurfiol neu Catholig, ond nid ar gyfer rhai Anghydffurfiol, y cyfeirir atynt fel capeli. Gelwir eglwys lle mae esgob neu archesgob yn eistedd yn eglwys gadeiriol.

Geirdarddiad golygu

Gair benthyg o'r Lladin yw "eglwys", yn tarddu o'r gair "ec(c)lesia".[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 38.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Chwiliwch am eglwys
yn Wiciadur.