Greenwich Village

cymdogaeth ym Manhattan, Dinas Efrog Newydd, UDA

Mae Greenwich Village (a gyfeirir ato'n aml fel "y Village") yn ardal lle trig nifer o bobl ar yr ochr orllewinol o Manhattan yn Ninas Efrog Newydd, UDA. Cafodd ei henwi ar ôl Greenwich, Llundain, yn Lloegr. Mae rhan helaeth o'r ardal hon yn gartref i deuluoedd dosbarth canol uwch. Yn hanesyddol, ystyriwyd Greenwich fel canolbwynt bohemaidd rhyngwladol ac yma y dechreuodd Mudiad y Bitniciaid. Mae'n eironig fod yr hyn a grëodd cymeriad atyniadol yr ardal yn wreiddiol yn y pen draw wedi achosi'r ardal i fod yn llawer mwy masnachol a chyffredin.

Greenwich Village
Mathcymdogaeth ym Manhattan, NRHP district, pentref hoyw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirManhattan Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd0.289 mi² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.7336°N 74.0028°W Edit this on Wikidata
Cod post10003, 10011, 10012 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethlleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA Edit this on Wikidata
Manylion
Stryd yn Greenwich Village

Hanes golygu

Lleolir Greenwich Village ar dir a oedd unwaith yn gorsdir. Yn yr 16g, arferai'r Indiaid Brodorol gyfeirio ato fel Sapokanikan (sef "cae tobaco"). Cliriwyd y tir a chafodd ei droi'n dir pori gan Iseldirwyr yn y 1630au a alwodd eu cartref newydd yn 'Noortwyck'. Concrodd y Saeson yr Iseldirwyr ym 1664 gan ddatblygu ardal newydd ar wahân i Ddinas Efrog Newydd, sef Greenwich Village yn y De. Cafodd ei wneud yn bentref swyddogol ym 1712 ac yn ôl cofnodion y Cyngor Cyffredinol cafodd ei enwi'n Grin'wich ym 1713.

Yn gyffredinol, caiff Greenwich Village ei ystyried fel man pwysig o ran diwylliant bohemaidd. Mae'r ardal yn adnabyddus oherwydd ei thrigolion lliwgar ac artistig a'r diwylliant amgen maent yn ei hyrwyddo. Yn draddodiadol, mae Greenwich Village wedi bod yn ganolbwynt ar gyfer mudiadau a syniadau newydd, boed yn wleidyddol, yn artistig, neu'n ddiwylliannol. Mae'n bosib fod hyn o ganlyniad i agweddau a safbwyntiau blaengar trigolion yr ardal. Erbyn dechrau'r 20g, ystyriwyd yr ardal fel man a oedd yn draddodiadol unigryw a gwelwyd twf yn y nifer o argraffwyr, orielau celf a theatrau arbrofol a oedd yno.

Yn ystod Oes Aur Bohemia, daeth Greenwich Village yn enwog am gymeriadau ecsentrig megis Joe Gould a Maxwell Bodenheim yn ogystal a'r dawnsiwr Isadora Duncan.

Mae Theatr Cherry Lane hefyd wedi'i leoli yn Greenwich Village. Daeth Greenwich Village i'r amlwg unwaith eto yn ystod y 1950au fel canolbwynt y byd bohemaidd, wrth i'r genhedlaeth Beat ymgynnull yno. Wrth iddynt ffoi o'r hyn a welsant fel cydymffurfio cymdeithasol, symudodd amrywiaeth o awduron, beirdd, artistiaid a myfyrwyr (a gafodd eu hadnabod fel y Beats yn ddiweddarach)i Greenwich Village. Yn y blynyddoedd a oedd i ddod, byddai Greenwich Village (a Dinas Efrog Newydd) yn ganolog i weithiau Jack Kerouac, Allen Ginsberg, William S. Burroughs a Dylan Thomas ymysg eraill. Yn Nhafarn y White Horse y cafodd Dylan Thomas dro gwael tra'n yfed ar Dachwedd y 9fed, 1953.