Iaith Gwlad y Basg yw Basgeg (Basgeg: Euskara; ceir hefyd y ffurfiau Euskera, Eskuara ac Üskara). Siaredir hi gan dros 700,000 o bobl yng Ngwlad y Basg, y mwyafrif llethol ohonynt yn Sbaen. Ynghyd â'r Sbaeneg, mae hi'n iaith swyddogol o fewn Cymunedau Ymreolaethol Gwlad y Basg.

Basgeg
Enghraifft o'r canlynoliaith fyw, iaith Edit this on Wikidata
MathIeithoedd Basgaidd, Ieithoedd De Ewrop Edit this on Wikidata
Label brodorolEuskara Edit this on Wikidata
Rhan olangues régionales de France, iaith swyddogol, languages of Europe Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBiscayan, Gipuzkoan dialect, Upper Navarrese, Navarro-Labourdin, Eastern Navarrese, tafodiaith Souletin, Alavese Basque, Salazarese, Standard Basque Edit this on Wikidata
RhagflaenyddHen Fasgeg Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuskara Edit this on Wikidata
Nifer y siaradwyr 
  • 750,000 (2016),[1]
  •  
  • 537,860 (2012),[2]
  •  
  • 464,000 (2012 – Sbaen)[2]
  • cod ISO 639-1eu Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-2baq, eus Edit this on Wikidata
    cod ISO 639-3eus Edit this on Wikidata
    GwladwriaethSbaen, Ffrainc Edit this on Wikidata
    RhanbarthGwlad y Basg Edit this on Wikidata
    System ysgrifennuYr wyddor Fasgeg, yr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
    Corff rheoleiddioEuskaltzaindia Edit this on Wikidata
    Gwefanhttp://www.euskaltzaindia.net Edit this on Wikidata
    Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

    Nid yw'r Fasgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel y rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Mae hi'n iaith arunig, hynny yw, nid oes perthynas hanesyddol rhyngddi hi ac unrhyw iaith arall, er bod rhai cysylltiadau dadleuol ag ieithoedd y Cawcasws wedi cael eu hawgrymu. Mae'n bosibl felly ei bod yn oroeswr o'r ieithoedd a siaradwyd yng ngorllewin Ewrop cyn dyfodiad yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd.

    Hanes yr iaith golygu

     
    Llawysgrif bachgen a gafodd ei gosbi am siarad Basgeg yn y 1960au: "En la escuela no tengo que hablar vasco" sef 'Wna i ddim siarad Basgeg eto yn yr ysgol', yn Sbaeneg.

    Ceir olion o'r Fasgeg o'r cyfnod Rhufeinig mewn arysgrifau yn yr iaith Acquitaneg o'r dalaith Rufeinig Gallia Aquitania. Y dystiolaeth bwysicaf yw cyfres o arysgrifau Lladin sy'n cynnwys tua 400 o enwau personol a 70 o enwau duwiau. Mae'r rhain yn awgrymu fod gan yr iaith berthynas glos a'r iaith Fasgeg neu'n dafodiaith o'r Fasgeg.

    Enghreifftiau o'r iaith golygu

    • Kaixo = Helo
    • Eskerrik asko = Diolch
    • Ikasle/ak = Myfyriwr/Myfyrwyr
    • Euskal Herria/Euskadi = Gwlad y Basg
    • Euskara/Euskera = Basgeg
    • Txokolatea = Siocled
    • Eta = a/ac
    • Nire Jauna eta nire Jaunko = Fy Arglwydd a'm Duw (Geiriau Sant Tomos yn y Beibl)
    • Bai = Ie
    • Ez = Nage
    • Kaixo!, Agur! = Hwyl!
    • Agur!, Adio! = Tara!
    • Ikusi arte = Tan tro nesaf!
    • Egun on = Bore da
    • Mesedez = Os gwelwch yn dda
    • Barkatu = Esgusodwch fi
    • Komunak = Tai bach
    • Komuna non dago? = Ble mae'r tai bach?
    • Non dago tren-geltokia? = Ble mae'r orsaf drên?
    • Ba al dago hotelik hemen inguruan? = Ble mae'r gwesty agosaf?
    • Zorionak = Gwyliau da
    • Ez dut ulertzen / Ez ulertzen dut = Dwi ddim yn deall
    • Ez dakit euskaraz = Dwi ddim yn siarad Basgeg
    • Ba al dakizu galesez? = Ydych chi'n siarad Cymraeg?
    • Zein da zure izena? = Beth ydy'ch enw chi?
    • Ongi etorri! = Croeso!
    • Egun on denoi = Croeso i bawb!
    • Berdin / Hala zuri ere = A chi hefyd
    • Jakina! Noski! = Mae'n iawn!
    • Nongoa zara? = O ble ydych chi'n dod?
    • Non dago ... ? = Ble mae'r ... ?
    • Badakizu euskaraz? = Ydych chi'n siarad Basgeg?
    • Bai ote? = Wel wrth gwrs?
    • Bizi gara! = Yma o hyd!
    • Bagarela = Ni hefyd
    • Topa! = Iechyd da!
    • Hementxe! = Yma ac acw!
    • Geldi! = Arhoswch!
    • Ez dut nahi... / Ez nahi dut... = Dwi ddim eisiau...

    Gramadeg golygu

    Mae gramadeg y Fasgeg yn wahanol i ramadeg y Gymraeg a ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill mewn nifer o ffyrdd. O ran cyflyrau gramadegol, nid yw'r Fasgeg yn defnyddio'r system enwol-gwrthrychol - yn hytrach, mae'n defnyddio'r cyflwr absolutibo ar gyfer yr asiant gyda berfau cyflawn a gwrthrych berfau anghyflawn, a'r ergatibo ar gyfer goddrych berfau anghyflawn.

    System y Fasgeg
    System Enwol-Gwrthrychol fel yn y Gymraeg
    Ergatibo–absolutibo Enwol–gwrthrychol
    A= asiant (goddrych) berf anghyflawn ERG ENWOL
    O= gwrthrych berf anghyflawn ABS GWRTHRYCHOL
    S= asiant berf anghyflawn ABS ENWOL

    Dyma enghraifft syml:

    Berf cyflawn Berf anghyflawn
    Basgeg Martin etorri da. Martinek txakur ikusi du.
    Cymraeg Mae Martin wedi cyrraedd. Gwelodd Martin gi.
    Sylwadau Y cyflwr absolutibo yn Basgeg, y cyflwr enwol yn Gymraeg. Yn y Fasgeg, rhaid ychwanegu -ek er mwyn dangos mai Martin yw'r goddrych, gan adael y gair txakur (ci) yn y cyflwr absolutibo.

    Yn y Gymraeg, rhaid treiglo'r gair "ci" yn feddal er mwyn dangos mai'r ci yw'r gwrthrych, gan adael y gair Martin yn y cyflwr enwol.

    Ffonoleg golygu

    Llafariaid golygu

    Llafariad blaen Llafariad canol Llafariad cefn
    Llafariad agos i
    /i/
    u
    /u/
    Llafariad canolig e
    /e/
    o
    /o/
    Llafariad agored a
    /a/

    Cytseiniaid golygu

    Tabl ffonemau cytseiniaid Basgeg Safonol
    Gwefusol Llafnol-
    Deintiol
    Abigol-
    Alfeolaidd
    Taflodol neu
    Ôl-daflodol
    Felar Glotol
    Trwynol m
    /m/
    n
    /n/
    ñ, -in-
    /ɲ/
    Ffrwydrol Di-lais p
    /p/
    t
    /t/
    tt, -it-
    /c/
    k
    /k/
    Lleisiol b
    /b/
    d
    /d/
    dd, -id-
    /ɟ/
    g
    /ɡ/
    Affrithiol Di-lais tz
    /t̪s̻/
    ts
    /t̺s̺/
    tx
    /tʃ/
    Ffrithiol Di-lais f
    /f/
    z
    /s̻/
    s
    /s̺/
    x
    /ʃ/
    h
    /∅/, /h/
    fel arfer1 Lleisiol j
    /j/~/x/
    Ochrol l
    /l/
    ll, -il-
    /ʎ/
    Rhotig Crych r-, -rr-, -r
    /r/
    Trawol -r-
    /ɾ/

    Y Fasgeg yng Nghymru golygu

    Trefnwyd gwersi Basgeg bob dydd adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008 gan Gymdeithas yr Iaith.

    Llyfryddiaeth golygu

    Cyffredinol golygu

    Cyfieithiadau i'r Gymraeg golygu

    Mae Cyfieithiadau i'r Gymraeg o ambell i stori fer, yn bennaf yn y cylchgrawn Breizh-Llydaw, a gyhoeddir gan Gymdeithas Cymru-Llydaw:

    • O eira bedair gwaith (Lau aldiz elur) gan Bernardo Atxaga, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin, tud. 127, rhif 138, Gaeaf 2009.
    • Yfory wna i ddim colli Mam (Bihar ez diot amari huts egingo) gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiad Cymraeg gan Rhisiart Hincks yn Taliesin tud. 56 rhif 133, Gwanwyn 2008.
    • Breuddwydion yn y Gogledd / Huñvreioù en hanternoz skornet (Ametzak iparralde izoztuan) gan Bernardo Atxaga, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 31 rhif 49, Awst 2008.
    • Dirgelion y Swyddfa / Kevrinoù ar Burev (Bulegoko misterioak), stori fer gan Patxi Zubizarreta, cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 37 rhif 47, Awst 2007.
    • Y Peiriant Golchi (Garbigailua), gan Patxi Zubizarreta, cyfieithiadau Cymraeg a Llydaweg gan Rhisiart Hincks yn Breizh / Llydaw. tud. 16 rhif 44, Awst 2006.
    • Dau Asyn / Daou Azen (Bi Asto), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 25 rhif 42, Ionawr 2006.
    • Esgidiau Rhad / Botou Marc'had Mad (Oenataku Merkeak), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 43, Mai 2006.
    • Y Fendith / Ar Benediste (Aitaren eta ...), stori fer gan Pernando Amezketarra (2001), cyfieithwyd yn ddwyieithog gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 24 rhif 41, Awst 2005.
    • Erthygl ddwyieithog am Patxi Zubizarreta, yn Llydaweg a Chymraeg, gan Rhisiart Hincks yn Breizh-Llydaw, tud. 16 rhif 44, Awst 2006.

    Cyfeiriadau golygu

    Dolenni allanol golygu

     
    Wikipedia
    Argraffiad Basgeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd