Bryste

Dinas yn Lloegr

Dinas a sir seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Bryste (Saesneg: Bristol); y sillafiad yng ngherddi'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yw Brysto[1]. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor neu Caer Odor yn Gymraeg (gyda'r gair "odor" yn golygu "bwlch") . Mae'n agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren ac fe'i lleolir 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, gydag Afon Avon yn eu gwahanu.

Bryste
Mathdinas, dinas fawr, dinas â phorthladd, city of United Kingdom Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolAvon, Dinas Bryste
Poblogaeth472,465 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1155 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarvin Rees Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd109.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Hafren, Afon Gwy, Afon Avon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4536°N 2.5975°W Edit this on Wikidata
Cod postBS Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarvin Rees Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Bryste (sir seremonïol) yn Lloegr

Geirdarddiad golygu

Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad.

Hanes golygu

Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Yn y 18g roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.

Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth golygu

Mae Bryste'n unigryw gan fod ganddo statws sirol ers y canoloesoedd. Yn 1835 ehangwyd y ffiniau er mwyn cynnwys treflanau megis Clifton ac roedd yn fwrdeistref sirol ym 1889 pan ddefnyddiwyd y term hwn am y tro cyntaf.[2] [3] Ar 1 Ebrill 1996, adenillodd ei statws fel sir (neu "swydd") pan ddiddymwyd yr enw "Swydd Avon" a daeth yn swydd unedol.[4]

Etholaethau seneddol golygu

Rhennir y sir yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan. At ddibenion gweinyddol mae'n dal i gael ei restru fel rhan o'r hen sir Avon.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Castell Bryste
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys y Teml
  • Neuadd Colston
  • Theatr Old Vic
  • Tŵr Colston

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan gutorglyn.net Archifwyd 2017-10-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 22 Mawrth 2018.
  2. Rayfield, Jack (1985). Somerset & Avon. London: Cadogan. ISBN 0-947754-09-1.
  3. "LOCAL GOVERNMENT BILL (Hansard, 16 November 1971)". hansard.millbanksystems.com. Cyrchwyd 7 Mawrth 2009.
  4. "The Avon (Structural Change) Order 1995". www.opsi.gov.uk. Cyrchwyd 27 Ionawr 2013.