Mae Cymuned yn fudiad Cymreig sy'n ymgyrchu dros hawliau cymunedau Cymreig, yn enwedig y rhai Cymraeg eu hiaith. Yn benodol mae wedi tynnu sylw at sefyllfa'r farchnad dai a'r diffyg tai fforddiadwy yng Nghymru, yn enwedig yn Y Fro Gymraeg, ac wedi protestio yn erbyn gwerthwyr tai yn Lloegr sydd yn gwerthu tai yng Nghymru i fewnfudwyr o Loegr.

Prif weithredwr Cymuned yw Aran Jones, a ddysgodd Gymraeg fel ail iaith. Ymysg aelodau blaenllaw eraill y mudiad mae Dr Simon Brooks, cyn-olygydd y cylchgronau Tu Chwith a Barn; Twm Morys, y bardd a'r canwr; yr actores Judith Humphreys a Dr Jerry Hunter, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Un o ymgyrchoedd pwysicaf y mudiad heddiw yw sicrhau fod yna ddigon o dai newydd ar gyfer pobl leol yn unig. Mae gwrthwynebwyr wedi galw hyn yn bolisi 'geto' ond mae Cymuned yn dweud fod polisïau tebyg eisoes yn cael eu gweithredu mewn rhannau o Loegr fel Parc Cenedlaethol Cymoedd Swydd Efrog, rhannau o Swydd Henffordd, Dyfnaint, Ardal y Copaon (Peak District) ac Ardal y Llynnoedd, a hynny heb wrthwynebiad gan y Blaid Lafur.

Mae'r mudiad wedi derbyn canmoliaeth a beirniadaeth am ei safbwynt dros y blynyddoedd. Mae sawl aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur wedi beirniadu Cymuned am fod yn "gul" a mewnblyg. Ond o bryd i'w gilydd daw cefnogaeth o gyfeiriadau annisgwyl. Yng nghynghadledd flynyddol y mudiad 2007 Richard Brunstrom, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, oedd y siaradwr gwadd. Galwodd am gryfhau'r Ddeddf Iaith bresennol ac esboniodd ei fod yn ddyletswydd cyfreithiol arno yn rhinwedd ei swydd i hybu'r iaith Gymraeg ac amddiffyn ac ymestyn hawliau siaradwyr Cymraeg.

Mae'r mudiad, i raddau helaeth, yn dilyn yr un gweledigaeth â Mudiad Adfer a sefydlwyd yn dilyn athroniaeth Owain Owain pan gyhoeddodd fap o'r Fro Gymraeg yn Nhafod y Ddraig, a hynny yn Ionawr 1964, ble bathwyd 'Y Fro Gymraeg' fel term gwleidyddol am y tro cyntaf.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.