Daearyddiaeth
Astudiaeth wyddonol o wyneb y Ddaear yw daearyddiaeth, yn ogystal ag asturdiaeth o'i nodweddion, ei thrigolion a ffenomenâu amrywiol. Y gair Groeg am y maes hwn oedd γεωγραφία ('geograffia', sef 'disgrifiad o'r Ddaear') ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf gan Eratosthenes (276–194 BC). Yn grynno, rhennir y pwnc yn ddwy ran, sef: nodweddion ffisegol, naturiol (daearyddiaeth ffisegol) a daearyddiaeth ddynol.[1][2][3][4]
Gwyddorau daear
Bioamrywiaeth
Cartograffeg
Cloddio
Daeareg
Daearyddiaeth
Defnydd tir
Demograffeg
Ecoleg
Eigioneg
Geocemeg
Hanes daearegol
Hydroleg
Meteoroleg
Morffoleg
Mwynyddiaeth
Paleontoleg
Petroleg
Rhewlifeg
Seismoleg
Mae daearyddiaeth fodern yn ddisgyblaeth eang sy'n ceisio deall gwahanol rannau o'r Ddaear (llefydd, cyfandiroedd, gwledydd), sut y daethant i fodolaeth (sy'n cynnwys elfennau o ddaeareg), ffenomenau naturiol a dynol a'r berthynas rhwng dyn a'r tir.
Canghenau Daearyddiaeth
Daearyddiaeth ffisegol
Prif faes daearyddiaeth ffisegol yw gwyddor Daear. Mae'n ceisio deall y lithosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y pedosffer a phatrymau fflora a ffawna (sef y bioseffer). Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:
BioddaearyddiaethHinsawdd a TywyddMoroedd ac ArfordirAmgylchedd
GeodeddDaeareg a GeomorffolegRhewlifegHydroleg a Hydrograffeg
Ecoleg tirffurfiauEigionegPriddegPaleoddaearyddiaeth
Gwyddoniaeth cwaternaiddCartograffegMynyddoeddCynhesu byd eang
Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw: Physical geography, geosystems a physiography.[5][6]
Daearyddiaeth ddynol
Prif erthygl: Daearyddiaeth ddynol
Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.
Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
DiwylliantDaearyddiaeth datblyguEconomegIechyd
Daearyddiaeth hanesyddolGwleidyddiaethPoblogaeth a DemograffegCrefydd
CymdeithasegCludiantTwristiaethAneddiad a Trefoli
AmaethyddiaethDiwydiantYnniLlygredd
Daearyddwyr nodedig

Cyfandiroedd
Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Chwiliwch am daearyddiaeth
yn Wiciadur.

  1. "Geography". The American Heritage Dictionary/ of the English Language; y Bedwaredd Gyfrol. Houghton Mifflin Company. Cyrchwyd 9 Hydref 2006. Italic or bold markup not allowed in: |work= (help)
  2. ↑​http://web.clas.ufl.edu/users/morgans/lecture_2.prn.pdf
  3. "1(b). Elements of Geography". Physicalgeography.net​. Cyrchwyd 2009-04-17.
  4. Bonnett, Alastair What is Geography? Llundain, Sage, 2008
  5. Fundamentals of Physical Geography, 2nd Edition, by M. Pidwirny, 2006
  6. Pidwirny, Michael; Jones, Scott (1999–2015). "Physical Geography".
Last edited on 31 Gorffennaf 2021, at 17:03
Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 3.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol.
Polisi preifatrwydd
Telerau Defnyddio
Bwrdd gwaith
 Hafan Ar hap  Gerllaw  Mewngofnodi  Gosodiadau  Rhoi  Ynglŷn â Wicipedia  Gwadiadau
IaithGwylioGolygu