Eglwys
addoldy Cristnogol
Cyfeiria'r gair eglwys at grŵp o bobl o'r grefyddGristnogol (yn enwedig pan sillafir y gair â phrif lythyren, er enghraifft Yr Eglwys yng Nghymru) neu at yr adeilad lle maent yn addoli. Daw'r gair Cymraeg o'r enw Lladin Diweddar ecclesia (Cernyweg eglos, Hen Wyddeleg eclais). Gall gyfeirio hefyd at y gymuned Gristnogol gyfan, yn arbennig yn ei hanes cynnar; Yr Eglwys Fore yw'r term a ddefnyddir am Gristnogaeth yn y canrifoedd cynnar, dan yr Ymerodraeth Rufeinig.
Basilica Sant Pedr yn y Fatican, Rhufain.
Fel arfer yng Nghymru mae'r gair yn cyfeirio at addoldai Protestannaidd cydumffurfiol neu Catholig, ond nid ar gyfer rhai Anghydffurfiol, y cyfeirir atynt fel capeli. Gelwir eglwys lle mae esgob neu archesgob yn eistedd yn eglwys gadeiriol.
Geirdarddiad
Gair benthyg o'r Lladin yw "eglwys", yn tarddu o'r gair "ec(c)lesia".[1]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Lewis, Henry. 1943. Yr Elfen Ladin Yn Yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t. 38.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Chwiliwch am eglwys
yn Wiciadur.
Last edited on 17 Awst 2017, at 15:58
Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 3.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol.
Polisi preifatrwydd
Telerau Defnyddio
Bwrdd gwaith
 Hafan Ar hap  Gerllaw  Mewngofnodi  Gosodiadau  Rhoi  Ynglŷn â Wicipedia  Gwadiadau
IaithGwylioGolygu