Geirfa coffi

(Ailgyfeiriad o Geiriadur Coffi)

Dyma restr o eiriau a thermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol fathau o goffi.

Paned o goddi


A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y

A golygu

  • Affogato : hufen iâ fanila ac ergyd o espresso ar ei ben
  • Americano : espresso gyda phiser o ddŵr poeth
  • Aromatizzato - caffè latte aromatizzato : espresso gyda sudd o unrhyw sawr, llaeth poeth a llaeth ewynnog ar ei ben

B golygu

  • Breve - cafè breve : gyda "hanner a hanner" (llaeth a hufen) ynddo, a llaeth ewynnog ar ei ben
  • Brûlot - café brûlot : gyda brandi a pherlysiau

C golygu

  • Café / Café express / Café noir : espresso yn Ffrangeg
  • Café Wien (cynaniad; ca-ffe fîn)/ Viennois : coffi a chantilly ar ei ben
  • Calva - café calva : espresso a gwydr o Calvados
  • Cappuccino (cynaniad; cap-w-TSHI-no): espresso gyda llaeth poeth ewynnog a taenelliad o bowdwr coco (i'w yfed yn y bore yn unig)
  • Cappuccio (cynaniad; ca-PWT-sho): cappuccino mawr
  • Carameleon : Ychydig o lemonêd, ychydig o driagl caramel a choffi wedi decaffeineiddio gyda rhew
  • Chantilly (cynaniad: shan-TÎ-ï) : hufen melys wedi corddi
  • Coffi gwyn : gyda llaeth oer
  • Coffi gwyrdd : ffa coffi heb eu rhostio. (fel hyn fe fydd coffi yn cael ei allforio / mewnforio)
  • Coffi rhew : gyda thriagl melyn a rhew
  • Coffi'r Congo : yr enw cyffredin ar blanhigyn robusta
  • Complet - café complet : brecwast cyfandirol
  • Corretto : espresso gyda diferyn o wirod, fel arfer grappa neu sambuca ynddo
  • Corretto grappa : espresso gyda diferyn o grappa ynddo
  • Crema : ewyn parhaus lliw gafrewig sy ar wyneb coffi da.
  • Crème - café crème : espresso gyda hufen neu macchiato freddo

Ch golygu

D golygu

  • Doppio / Espresso doppio : dwy ergyd o espresso yn yr un cwpan

E golygu

  • Espresso : (Eidaleg =wedi ei wasgu allan) coffi bach du
  • Espresso con panna : espresso gyda hufen
  • Espresso doppio : dwy ergyd o espresso yn yr un cwpan

F golygu

  • Fifty-fifty : hanner a hanner (llaeth a hufen)
  • Flat white : (Awstralia a Gogledd America) coffi gwyn
  • Flavoured coffee / caffè latte aromatizzato. Gweler aromatizzato
  • Frappé (cynaniad; ffrap-e) : coffi wedi corddi gyda hufen iâ a dŵr barlys gyda rhew (o wlad Groeg yn wreiddiol)
  • Freddo (cynaniad; FFRED-o) - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
  • Fredoccino (cynaniad; ffred-o-TSHI-no) / Freeze : unrhyw fath o goffi rhewllyd

G golygu

  • Gioccato (cynaniad; jo-CA-to) : espresso gyda llaeth ewynnog ar ei ben
  • Grande (café) crème : café au lait
  • Granita di caffè con panna : coffi yn llawn naddion rhew gyda chantilly ar ei ben

H golygu

  • Hanner a hanner : cymysgiad gydradd o laeth a hufen
  • Hag - Caffè Hag : coffi wedi decaffeineiddio

I golygu

  • Irish coffee : gyda wisgi a hufen

J golygu

  • Java : coffi gyda siocled poeth a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben

L golygu

  • lait - café au lait (cynaniad; ca-ffe ô le): gyda llaeth poeth
  • Large cappuccino : (yn Awstralia) cappuccio
  • Latte - caffè (e) latte : llaeth poeth gyda espresso a llaeth ewynnog ar ei ben (i frecwast)
  • Liégeois (cynaniad; li-e-shwa) : hufen iâ gyda choffi rhew arno a chantilly ar ei ben
  • Limone - caffè con limone : coffi gyda lemon
  • Long - long black / Café long / Caffè lungo : espresso gyda rhagor o ddŵr poeth wedi wasgu drwy'r hidlydd
  • Lungo - caffè lungo : gweler Long

M golygu

  • Caffè macchiato caldo  : espresso gyda diferyn o laeth poeth
  • Macchiato freddo : espresso gyda diferyn o laeth oer
  • Maroccino : espresso gyda llaeth poeth ewynnog
  • Moca / Mocha : y coffi gorau, o Al Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn Yemen
  • gellir Moca olygu hefyd;- espresso gyda sudd siocled, llaeth poeth a hufen wedi corddi
  • pot Moca : aillai percoladur, neu gwneuthurwr coffi pen stof ("Bialetti")
  • Moitié-moitié : (Ffrangeg - cynaniad MWAT-ië-MWAT-ië) : hanner a hanner (llaeth a hufen)

N golygu

  • Noisette (cynaniad; nwa-ZET) : (yn Ffrainc). Gweler macchiato

P golygu

  • Panna : hufen (yn eidaleg) - espresso con panna : espresso gyda hufen

R golygu

  • Ristretto / Caffè stretto : espresso bach cryf
  • Romana - caffè alla romana : coffi mewn gwydr

S golygu

  • Salsa fanila : coffi gyda ychydig o sudd fanila, dŵr mwyn eferw a rhew
  • Scuro : (Eidaleg = tywyll) gyda dim ond ychydig o laeth
  • Shakerato - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
  • Short black : coffi bach du. Gweler espresso

T golygu

  • tazza fredda (cynaniad; TAD-sa FFRED-a) - caffè in tazza fredda : coffi mewn cwpan oer

V golygu

  • Viennois (cynaniad; fi-en-wa) / Café Wien : coffi a chantilly ar ei ben

Cysylltiadau allanol golygu

 
Wicillyfrau
Mae gan Wicilyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma: