Golwg (cylchgrawn)

Cylchgrawn wythnosol Cymraeg ydy Golwg, a sefydlwyd yn 1988. Mae'n cynnwys newyddion cyfoes sy'n berthnasol i Gymru ac mae ganddo'r cylchrediad mwyaf o'r cylchgronau Cymraeg. Un o sylfaenwyr y cylchgrawn, a golygydd gyfarwyddwr y cwmni, yw Dylan Iorwerth. Y golygydd yw Siân Sutton, a'r dirprwy olygydd yw Barry Thomas.

Golwg
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1988 Edit this on Wikidata
Prif bwnccylchgrawn newyddion Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.golwg360.com/ Edit this on Wikidata
Clawr Golwg, 18 Hydref 2007

Yn ôl Arolwg Tony Bianchi o'r wasg brintiedig cyfrwng Gymraeg (Ionawr, 2008)[dolen marw] gwerthir c2,980 o gopïau bob wythnos. Tanysgrifiadau yw 46.3% o’r gwerthiannau gyda hysbysebion yn 52.9% o'r incwm blynyddol.

Mae Golwg yn derbyn grant blynyddol o £75,000 gan Gyngor Llyfrau Cymru tuag at ei dudalennau diwylliant a chelfyddydau. Daw gweddill ei incwm o werthiant, hysbysebu a gweithgareddau masnachol eraill gan Golwg Cyf.

Mae cwmni Golwg Cyf hefyd yn cyhoeddi cylchgronau eraill megis Lingo Newydd ar gyfer dysgwyr, ac WCW a'i ffrindiau ar gyfer plant.

Golwg360 yw gwasanaeth newyddion ar-lein Golwg.

Dolenni Allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.