Rhosdir carreg gwenithfaen gweddol uchel sy'n gorwedd yng ngogledd-dwyrain Cernyw, De-orllewin Lloegr, yw Gwaun Bodmin (Cernyweg: Goon Brenn;[1] Saesneg: Bodmin Moor). Mae ganddo arwynebedd o tua 208 km² (80 milltir sgwar) ac yn ddaearegol mae'n dyddio o'r cyfnod Carbonifferaidd.

Gwaun Bodmin
Mathardal gadwriaethol, cyforgors, masiff Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Baner Cernyw Cernyw
Cyfesurynnau50.5625°N 4.6132°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethInternational Dark Sky Park Edit this on Wikidata
Manylion
Y Cheesewring, un o'r torau sy'n britho tirlun Gwaun Bodmin

Mae'r enw Saesneg arno, "Bodmin Moor", yn gymharol ddiweddar; cafodd ei lunio gan yr Arolwg Ordnans yn 1813. Gorwedd tref fechan Bodmin ar gyrion de-orllewinol y waun. Yr enw cynharach yn Saesneg oedd "Fowey Moor", ar ôl Afon Fowey sy'n rhedeg trwy'r ardal. Goen Bren yw'r enw yn Gernyweg.

Mae torau gwenithfaen trawiadol yn codi o'r waun, yn cynnwys creigiau Bron Wennyly (Brown Willy), pwynt uchaf Cernyw (417m, 1368 troedfedd) a Rough Tor (400m, 1313 troedfedd).

Ceir tua mil o ferlod yn pori'r tir uchel a rhai miloedd o wartheg hefyd. Yn yr ardal, ceir 57 o gylchoedd cerrig.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 10 Awst 2019