Gwynedd

prif ardal a sir yng ngogledd-orllewin Cymru

Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd. Mae'n ffinio â Sir Conwy i'r dwyrain a gogledd, a Phowys a Cheredigion i'r de. Gwynedd yw y sir sydd â'r gyfartaledd uchaf o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Bethesda a Llanberis. Lleolir Prifysgol Bangor yn y sir. Plaid Cymru sydd wedi rheoli'r cyngor ers ei sefydlu yn 1995.

Gwynedd
ArwyddairCadernid Gwynedd Edit this on Wikidata
Mathprif ardal Edit this on Wikidata
Poblogaeth124,560 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,534.9252 km² Edit this on Wikidata
GerllawBae Caernarfon, Sianel San Siôr, Bae Ceredigion Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYnys Môn, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Powys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8333°N 3.9167°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW06000002 Edit this on Wikidata
GB-GWN Edit this on Wikidata
Map
Mae'r erthygl yma am sir Gwynedd. Am y deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Gwynedd. Gweler hefyd Gwynedd (gwahaniaethu).

Tarddiad yr enw golygu

Yn y gorffennol tybiodd haneswyr megis J. E. Lloyd taw tarddiad Celtaidd y gair "Gwynedd" oedd "casgliad o lwythau" – yr un gwraidd â'r Wyddeleg fine, sef llwyth.[1] Bellach, cydnabyddir cysylltiad rhwng yr enw â'r Wyddeleg Féni, sef un o enwau cynnar y Gwyddelod arnynt eu hunain, sy'n perthyn i fían, "mintai o ŵyr yn hela a rhyfela, mintai o ryfelwyr dan arweinydd". Efallai *u̯en-, u̯enə (ymdrechu, dymuno, hoffi) yw'r bôn Indo-Ewropeg.[2] Ymsefydlodd Gwyddelod yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Nyfed, ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid. Venedotia oedd y ffurf Ladin, ac ym Mhenmachno mae carreg goffa o tua'r flwyddyn 500 sy'n darllen Cantiori Hic Iacit Venedotis ("Yma y gorwedd Cantiorix, dinesydd o Wynedd").[1] Cedwid yr enw gan y Brythoniaid pan ffurfiwyd Teyrnas Gwynedd yn y 5g, a barhaodd hyd oresgyniad Edward I. Adferwyd yr enw hanesyddol hwn pan ffurfiwyd y sir newydd ym 1974.

Hanes golygu

Roedd yr hen sir Gwynedd (1974–1996) yn cyfateb yn fras i Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth Teyrnas Gwynedd. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol Sir Conwy, yn cynnwys y Creuddyn, ac Ynys Môn, sef yr hen Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionnydd. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremonïol.

 
Tarian yr hen sir, 1974–1996

Daearyddiaeth golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Economi golygu

Ceir economi cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar dwristiaeth gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal Meirionnydd yn y de ac yn llawer ehangach na'r Eryri go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am dai haf. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.

Mae amaethyddiaeth yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.

Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r diwydiant llechi, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y chwareli erbyn heddiw.

Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys Cwmni Recordiau Sain yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa Trawsfynydd wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa Wylfa yn dal i redeg.

Mae'r sector addysg yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir Prifysgol Bangor yma a cheir sawl coleg arall fel Coleg Menai hefyd.

Prif drefi golygu

Cymunedau golygu

Ar gyfer llywodraeth leol ceir sawl cymuned yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.

Cestyll golygu

Oriel golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Bedwyr Lewis Jones, Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 5–6
  2.  Gwynedd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2016.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato