Hanes Gruffudd ap Cynan

Yn Hanes Gruffudd ap Cynan ceir bywgraffiad Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 12g. Ceir dau destun, un yn Gymraeg a'r llall yn Lladin. Mae Historia Gruffud vab Kenan yn drosiad Cymraeg Canol o'r fuchedd (bywgraffiad) Ladin wreiddiol, sef Vita Griffini Filii Conani. Mae Hanes Gruffudd ap Cynan yn unigryw yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am ei bod yr unig fuchedd Gymraeg Canol sy'n adrodd hanes gŵr lleyg (Bucheddau'r Saint yw'r bucheddau eraill).

Hanes Gruffudd ap Cynan
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Prif bwncGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata

Hanes testunol golygu

Cafodd y fersiwn Lladin gwreiddiol, Vita Griffini Filii Conani, ei ysgrifennu rywbryd yn ystod oes Owain Gwynedd, olynydd Gruffudd ap Cynan. Credid hyd yn ddiweddar fod y testun hwnnw wedi ei golli, ond yn ddiweddar mae'r ysgolhaig Paul Russell wedi dangos fod y testun Lladin o Hanes Gruffudd ap Cynan a geir yn llawysgrif Peniarth 434E yn cadw'r testun Lladin gwreiddiol yn hytrach na bod yn gyfieithiad i'r Lladin o'r testun Cymraeg Canol Historia Gruffud vab Kenan [1] Archifwyd 2005-10-31 yn y Peiriant Wayback.. Ceir gwahaniaethau pwysig rhwng y testun gwreiddiol a'r cyfieithiad ohono i'r Gymraeg sy'n tasgu goleuni ar hanes a meddylfryd y cyfnod.

Gwnaed y trosiad Cymraeg a elwir yn Historia Gruffud vab Kenan rywbryd yn ystod hanner cyntaf y 13g. Mae'r awdur yn anhysbys ond ymddengys ei fod yn glerigwr. Gan fod y fuchedd yn ymwneud ag un o dywysogion Gwynedd gellid cynnig ei bod wedi'i chyfansoddi mewn un o sefydliadau egwlysig y dywysogaeth, er enghraifft Priordy Penmon.

Llawysgrifau golygu

Ceir y testun cynharaf o'r Historia yn llawysgrif Peniarth 17 (=Hengwrt 406), sy'n perthyn i tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg, efallai. Ceir sawl copi diweddarach ac mae hanes perthynas y llawysgrifau yn gymhleth.

Llyfryddiaeth golygu

  • D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977). Y golygiad safonol, gyda rhagymadrodd a nodiadau helaeth.
  • Paul Russell (gol.), Vita Griffini Filii Conani: The Medieval Latin Life of Gruffudd Ap Cynan (Caerdydd, 2006). ISBN 9780708318935