Llenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif

Yr argraff gyffredinol a geir wrth edrych ar lenyddiaeth Gymraeg yr 17g yw un o gyfnod o ddirywiad cyson ac unffurfiaeth lethol. Mae hyn yn adlewyrchu cyflwr gwleidyddol Cymru yn y ganrif honno a'r ffaith fod nifer o'r uchelwyr, noddwyr llên uchel a dysg, yn ymbellhau o'u gwreiddiau. Mae'n ganrif a ddominyddir gan grefydd a'r gwrthdaro rhwng Eglwys Loegr a'r Eglwys Gatholig ar ei dechrau a rhwng yr eglwys sefydlog a'r Pwirtianiaid yn ddiweddarach. Dyma'r ganrif a welodd rhyfel cartref yn rhwygo'r wlad hefyd, gyda thrwch arweinwyr Cymru yn ochri gyda'r brenin ac Eglwys Loegr. Nid yw'n syndod felly i gael fod y mwyafrif helaeth o lyfrau'r ganrif yn llyfrau crefyddol, gan gynnwys gwaith y ffigyrau llenyddol pwysicaf.

Llenyddiaeth Gymraeg yr 17eg ganrif
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganllenyddiaeth Gymraeg yr 16eg ganrif Edit this on Wikidata
Olynwyd ganllenyddiaeth Gymraeg y 18fed ganrif Edit this on Wikidata
Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Barddoniaeth golygu

Er gwaethaf y colli nawdd roedd y traddodiad barddol yn araf i edwino ond edwino a wnaeth. Mae'r llond llaw o feirdd da fel Siôn Philyp a'i frawd Rhisiart (Philypiaid Ardudwy), Richard Hughes, Edmwnd Prys, Siôn Tudur, Huw Llwyd a Thomas Prys yn eithriad i'r rheol ac yn perthyn mewn ysbryd i'r ganrif ragflaenol. Ymhlith yr olaf o'r beirdd proffesiynol oedd Owen Gruffydd a Rhys Cadwaladr, ar ddiwedd y ganrif a dechrau'r ganrif nesaf, ond digon dinod ac ystrydebol yw eu canu mewn cymhariaeth â beirdd mawr yr 16g.

Mae'n ddarlun tipyn mwy iach yn y canu rhydd, gyda beirdd fel Edward Morris o'r Perthillwydion a Huw Morys (Eos Ceiriog) yn canu'n rhwydd ar y mesurau carolaidd yn ogystal ag ar y mesurau caeth. Canu i fân uchewlyr lleol ac er mwyn diddanu'r werin a wnai'r beirdd hyn, heb lawer o uchelgais llenyddol nac awydd newid. Yn is o lawer eu crefft ceid ugeiniau o feirdd llai yn canu ar donau poblogaidd. Roedd llawer o'r canu hwn yn gysylltiedig â gwyliau'r flwyddyn ac yn rhan o draddodiad gwerinol sy'n parhau i'r 18g. O'r un cyfnod daw llawer o'r Hen Benillion hefyd, cynnyrch barddonol gorau'r ganrif efallai, er iddynt gael eu diystyru'n llwyr ar y pryd.

Un o lenorion mwyaf dylanwadol y ganrif oedd Rhys Prichard ('Y Ficer Pritchard' neu'r 'Hen Ficer'). Cyfansodd yr Hen Ficer nifer o bennillion syml, gwerinol, ar bynciau crefyddol. Fe'u cyhoeddwyd fel Canwyll y Cymry yn 1681, ddeugain mlynedd ar ôl marwolaeth yr Hen Ficer, a daethant mor bwysig â'r Beibl a'r cyfieithiadau o Daith y Pererin ym mywyd crefyddol y werin.

Rhyddiaith golygu

 
Llyfr y Tri Aderyn

Cyfieithiadau ac addasiadau o weithiau crefyddol Saesneg yw trwch rhyddiaith y ganrif. Ar ei dechrau roedd y Gwrthddiwygwyr Cymreig yn weithgar o hyd (gweler uchod). Mae gweddill rhyddiaith y ganrif bron i gyd yn gynnyrch clerigwyr Eglwys Loegr a'r Piwritaniaid. O blith y cannoedd o awduron mae enwau Rowland Vaughan o Gaer Gai, John Davies (Mallwyd), Oliver Thomas, a Charles Edwards yn sefyll allan.

Perthyn i ddosbarth neilltuol yw Morgan Llwyd o Wynedd, awdur sawl cyfrol o ryddiaith gyfriniol gan gynnwys Llyfr y Tri Aderyn, sy'n un o gampweithiau mawr llenyddiaeth Gymraeg. Roedd Morgan Llwyd yn fardd da yn ogystal.

Ysgolheictod golygu

Parhaodd gwaith y dyneiddwyr i ddegawdau cyntaf y ganrif newydd, gyda Salmau mydryddol Edmwnd Prys yn cael eu cyhoeddi yn 1621 er enghraifft. Cafywd yn ogystal Y Beibl Bach neu'r Beibl Coron yn 1630, a ddaeth â'r ysgrythurau o fewn cyrraedd pawb.

Rhaid crybwyll yn ogystal gwaith ysgolheigion fel John Davies o Fallwyd a Thomas Jones, awdur Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb (1688). Dyma ganrif fawr y copïwyr llawysgrifau Cymreig yn ogystal, gwŷr fel John Jones (Gellilyfdy) a weithiai'n ddistaw yn y cefndir i ddiogelu etifeddiaeth lenyddol Cymru a gosod un o'r sylfeini ar gyfer adfywiad y 18g. Casglodd yr uchelwr Robert Vaughan o Hengwrt (ger Dolgellau) un o'r casgliadau pwysicaf o lawysgrifau Cymreig erioed, a oedd yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Llyfr Aneirin a Llyfr Taliesin.

Rhai cerrig milltir golygu

Llyfryddiaeth golygu

Ceir llyfryddieithau ar awduron unigol yn yr erthyglau perthnasol. Rhoddir yma detholiad o lyfrau sy'n cynnig arolwg cyffredinol ar y cyfnod:

  • Geraint Bowen (gol.), Y Traddodiad Rhyddiaith, cyfrol 2 (Gwasg Gomer, 1970)
  • W. J. Gruffydd, Llenyddiaeth Cymru: Rhyddiaith 0 1540 hyd 1660 (Wrecsam, 1926)
  • Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, 2 gyfrol (Cyhoeddiadau Barddas, 1993, 1994)
  • Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944; sawl argraffiad ers hynny). Pennod IX.
  • T. H. Parry-Williams (gol.), Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd, 1932)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992)

Gweler hefyd golygu