Lloegr - Wicipedia
Lloegr
Gwlad yng ngogledd Ewrop
Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.
Lloegr
England
Mathgwledydd y Deyrnas Unedig 
PrifddinasLlundain 
Poblogaeth53,012,456 
AnthemGod Save the Queen 
Pennaeth llywodraethBoris Johnson 
Cylchfa amserGMT 
NawddsantSiôr 
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg 
Daearyddiaeth
Arwynebedd130,278.43 km², 130,278 km² 
Yn ffinio gydayr Alban, Cymru 
Cyfesurynnau53°N 1°W 
Cod SYGE92000001 
GB-ENG 
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn y Deyrnas Gyfunol 
Pennaeth y wladwriaethElisabeth II 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 
Pennaeth y LlywodraethBoris Johnson 
Ffeiliau perthnasol ar Comin
Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mercia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.
Y 'Rhaniad Gogledd-De', gyda Chanolbarth Lloegr, mewn gwyrdd, yn eu gwahanu.
Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.
Rhanbarthau Lloegr
Prif erthygl: Rhanbarthau Lloegr
Mae naw rhanbarth yn Lloegr:
Gweler hefyd

Chwiliwch am Lloegr
yn Wiciadur.
Last edited on 18 Mehefin 2019, at 17:21
Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 3.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol.
Polisi preifatrwydd
Telerau Defnyddio
Bwrdd gwaith
 Hafan Ar hap  Gerllaw  Mewngofnodi  Gosodiadau  Rhoi  Ynglŷn â Wicipedia  Gwadiadau
IaithGwylioGolygu