Llywelyn Bren

bonheddwr Cymreig

Arglwydd Senghennydd a Meisgyn ym Morgannwg oedd Llywelyn ap Gruffudd neu Llywelyn Bren (m. 1318). Roedd yn orwyr i Ifor Bach (Ifor ap Meurig ap Cadifor). Roedd yn arglwydd cyfrifol a rhyfelwr dewr a gododd mewn gwrthryfel yn erbyn gormes y goresgynwyr yn ne-ddwyrain Cymru.

Llywelyn Bren
Ganwyd1267 Edit this on Wikidata
Senghennydd Edit this on Wikidata
Bu farw1318 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwyldroadwr Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Rhys Edit this on Wikidata
PlantNn ferch Llywelyn Bren Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru) a Llywelyn (gwahaniaethu).

Bywgraffiad golygu

Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd gan y brenin diystyriol hwnnw. Aeth pethau o ddrwg i waeth a chododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu.

Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddeddfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio yn y modd erchyll arferol gan Goron Lloegr yn achos "teyrnfradwyr".

Roedd Llywelyn yn ŵr diwylliedig a deallus. Roedd yn hoff iawn o lenyddiaeth Gymraeg a Ffrangeg, yn perchen llawysgrifau yn y ddwy iaith honno ac yn noddi'r beirdd. Yn ôl traddodiad roedd ganddo blasdy bychan yn Eglwys Ilan, yng nghantref Senghennydd.

Llyfryddiaeth golygu