Paleoddaearyddiaeth

Astudiaeth o ddaearyddiaeth hanesyddol yw Paleoddaearyddiaeth[1] Mae'n canolbwyntiuo ar dirffurfiau ffisegol ond gall hefyd ymwneud â'r astudiaeth o fodau dynol yn eu hamgylchedd. Pan astudir y cyntaf o'r rhain: daearyddiaeth hanesyddol, yna gellir defnyddio'r term Paleogeomorffoleg.

Diagram i ddangos gwahanu Pangaea a symudiad y cyfandiroedd hynafol i'w safle presennol (gwaelod y llun). Mae'r rhif ar waelod pob map yn cyfeirio at 'miliwn o flynyddoedd cyn y presennol'.

Drwy ymchwil Paleoddaearyddol, ceir gwybodaeth wyddonol mewn sawl maes e.e. mae'r dadansoddiad Paleoddaearyddol o fasnau gwaddodol (sedimentary basins) yn faes allweddol o fewn daeareg petroliwm, gan fod yr amgylcheddau hynafol wyneb y Ddaear wedi eu cadw o fewn cofnodion y stratigraffeg.

Drwy astudio'r amgylchedd gwaddodol a gysylltir â ffosiliau ceir darnau coll o'r jig-so enfawr hwnnw a elwir yn esblygiad a sut a pham y difodwyd cymaint o rywogaethau dros y milenia. Felly hefyd gyda'r ymchwil i sut y datblygodd y drifft cyfandirol, datblygiad cysyniadau amrywiol am dectoneg platiau a gwybodaeth newydd am siap a lleoliad uwchgyfandiroedd megis y Pangaea a chefnforoedd hynafol fel y Panthalassa a'r Môr Tethys. Drwy'r astudiaeth hyn, gall gwyddonwyr ail-greu model o gyfandiroedd a chefnforoedd y Ddaear cynhanes.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Bangor; adalwyd 21 Awst 2016.

Llyfryddiaeth golygu

Irving, Edward (February 8, 2005). "The Role of Latitude in Mobilism Debates". PNAS 102 (6): 1821–1828. Bibcode 2005PNAS..102.1821I. doi:10.1073/pnas.0408162101.