Neuadd Llaneurgain

pentref yn Sir y Fflint
(Ailgyfeiriad o Pentre Moch)

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Neuadd Llaneurgain ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Northop Hall).[1] Ar un adeg, defnyddid yr enw Pentre Moch neu Pentre-môch[2] am ran ddwyreiniol y gymuned. Saif rhwng Cei Connah a Llaneurgain, fymryn i'r gogledd o'r briffordd A55, ar y ffordd B5125.

Neuadd Llaneurgain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.201°N 3.086°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000203 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ275677 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Roedd nifer o lofeydd yn yr ardal yn y 19g. Cwmni Dublin & Irish a ddechreuodd y cloddfeydd, ac allforid y glo i Iwerddon o Gei Connah. Roedd poblogaeth y gynuned yn 2001 yn 1,685.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 15 Ionawr 2022
  2. "Pentre-môch", RCAHMW Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol; adalwyd 15 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato