Tan yn ddiweddar defnyddiwyd yr enw Cynfeirdd i ddisgrifio beirdd y chweched ganrif yn unig, ond bellach derbynnir yr enw fwy fwy i ddisgrifio'r beirdd o'r 6g tan gyfnod y Gogynfeirdd (Beirdd y Tywysogion). Mae'r cyfnod hir hwn yn cynnwys gwaith y beirdd cynharaf, a elwir yr Hengerdd, ynghyd â gwaith y beirdd diweddaraf a elwir yn gyffredinol Canu'r Bwlch (am ei fod yn gorwedd rhwng yr Hengerdd a chyfnod Beirdd y Tywysogion.

Llenyddiaeth Gymraeg
Geraint ac Enid
Prif Erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
Llenorion

550-1600 · 1600-heddiw

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Ymhlith gwaith y cynfeirdd sydd wedi goroesi mae gwaith Aneirin a Thaliesin. Cerdd arbenning o'r cyfnod hwn hefyd yw Armes Prydain, cerdd wlatgarol iawn sy'n galw am gynghrair i yrru'r Saeson o'r wlad ac a gyfansoddwyd tua 930. Yn aml cysylltir gwaith y Cynfeirdd â chwedlau a oedd yn cael eu hadrodd gan y cyfarwydd. Y mwya adnabyddus o'r rhain yw Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Mae nifer o'r cerddi sydd yn Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Coch Hergest yn perthyn i oes y Cynfeirdd hefyd.

Yr Hengerdd golygu

Prif erthygl: Yr Hengerdd.

Mae enwau'r beirdd cynharaf sy'n hysbys yn cynnwys Aneirin, Taliesin, Cian, Talhaearn Tad Awen a Blwchfardd. Dim ond gwaith Aneirin a Thaliesin sydd ar glawr heddiw. Gelwir gwaith y beirdd hyn yn Hengerdd. Dyma'r canu cynharaf yn Gymraeg sydd wedi goroesi.

Canai Aneirin a Thaliesin i arweinwyr y Brythoniaid yng Nghymru a'r Hen Ogledd yn y 6g. Canu arwrol ydyw; cerddi sy'n dathlu bywyd a marwolaeth arwyr o ryfelwyr ac yn canu clodydd brenhinoedd hael fel Urien Rheged (prif noddwr Taliesin) a Mynyddog Mwynfawr (noddwr Aneirin). Mae gwreiddiau'r canu hwnnw'n hen iawn ac yn tarddu o gyfnod y Celtiaid. Er iddo addasu a newid gyda threigliad amser, parheai'r canu arwrol i fod yn elfen amlwg iawn yng ngwaith y beirdd Cymraeg hyd gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Canu'r Bwlch golygu

Prif erthygl: Canu'r Bwlch.

Yn wahanol i'r Hengerdd, mae enwau'r rhan fwyaf o'r beirdd a ganai yn y cyfnod a elwir Canu'r Bwlch (o tua'r 7g hyd yr 11eg) yn anhysbys bellach. O blith yr ychydig o enwau sydd wedi dod i lawr i ni mae gwaith Afan Ferddig, Arofan, Meigan a Dygynnelw ar goll ac mae union awduraeth y cerddi a briodolir i Lywarch Hen a Heledd yn ansicr. Dim ond y gwaith a briodolir i Daliesin yn Llyfr Taliesin sy'n gysylltiedig â chymeriad hanesyddol, ond fe'i dangoswyd gan Syr Ifor Williams mai cerddi diweddarach ydyn nhw (ac eithrio rhyw ddwsin o destunau dilys gan y Taliesin go iawn) a'u bod wedi cael eu cyfansoddi tua'r 9g. Perthyn i draddodiad yn hytrach na bardd hanesyddol y mae'r cerddi a briodolir i Fyrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn ogystal.

Ceir hefyd nifer o gerddi eraill, gan gynnwys y darogan cynnar Armes Prydain, canu natur, cerddi crefyddol, englynion am arwyr (Englynion y Beddau) a cherddi sy'n ymwneud â gwirioneddau amlwg (gwirebau). Ni wyddom ddim am awduron y testunau hyn. Er yn ddiweddarach yn eu ffurf presennol, mae'r cyfresi o gerddi byr a adnabyddir fel Trioedd Ynys Prydain, yn amlwg â'u gwreiddiau yn y cyfnod hwn hefyd.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Joseph P. Clancy, yn The Earliest Welsh Poetry. Detholiad o waith y Cynfeirdd mewn cyfieithiad.
  • A.O.H. Jarman, The Cynfeirdd (Caerdydd, 1981). Cyfres "Writers of Wales".
  • Brynley F. Roberts (gol.), Early Welsh Poetry (Aberystwyth, 1988)
  • Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976). tt. 19-109.