Lladrad data

Oddi ar Wicipedia

Mae lladrad data'n digwydd pan fo person neu bersonau'n dwyn gwybodaeth ddigidol (neu 'ddata'), yn aml pan fo ceidwad y gweinydd neu'r wefan yn esgeulus. Mae'n digwydd ar adegau oddi fewn i swyddfa'r cwmni neu'r sefydliad gan y staff eu hunain sydd â mynediad i ddata'r cwmni e.e. drwy ddefnyddio co bach, iPod, camera digidol, ffôn neu drwy i swyddog y cwmni ddanfon ebost iddo ef ei hun, gyda'r data fel atodiad. Gall y wybodaeth sy'n cael ei lladrata gynnwys fanylion personol a chyfrinachol iawn, fel cyfeiriadau, dyddiadau geni, cyfrineiriau cwsmeriaid y cwmni neu'r sefydliad.

Gall y cymelliad dros ladrata'r data fod yn amrywiol: dichell neu gasineb at y cwmni neu er mwyn elwa'n ariannol drwy werthu'r data er enghraifft neu er mwyn canu cloch, sef y weithred o ddatgelu'n gyhoeddus camymddygiad o fewn sefydliad. Mae'r weithred o ladrata data'n cael ei ystyried yn drosedd, er bod rhai cwmniau a sefydliadau'n honi bod canu cloch yn weithred bositif,[1] ac mewn rhai amgylchiadau mae'r gyfraith yn amddiffyn y canwr cloch.

Enghreifftiau o ddwyn data[golygu | golygu cod]

Mawrth
2010
Hydref
2013
Chwefror/Mawrth
2014
Mehefin
2015
Awst
2015
Hydref
2015
Cwmni Betfair Adobe eBay JD Wetherspoon Carphone Warehouse Talk Talk
Logo
Cyfanswm
cwsmeriaid
3,090,000 40,900,000 15 miliwn 657,000 2,490,000 157,000
Nodiadau 3 miliwn o
ddefnyddenwau
cwestiynau allweddol;
90,000 o fanylion banc
38 miliwn
defnyddenwau
cyfrineiriau;
2.9 miliwn
enwau a rhifau cerdyn
Enwau a chyfeiriadau,
dyddiadau geni,

rhifau ffôn, ebyst
a chyfrineiriau
Manylion llawn cwsmeriaid
a gofresrodd er mwyn
defnyddio'r we
2.4 miliwn o enwau a chyfeiriadau
dyddiadau geni
a manylion banc 90,000
o gwsmeriaid
Enwau, cyfeiriadau a
dyddiadau geni
gan gynnwys 15,656 o gwsmeriaid
lle dygwyd eu manylion banc

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Schneier, Bruce (10 Mehefin 2013). "Government Secrets and the Need for Whistle-blowers". Schneier on Security. Cyrchwyd 15 Chwefror 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]