Llan

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y gair Cymraeg 'llan' yw hon. Am y pentref ym Mhowys gweler Llan (Powys).

Darn o dir wedi ei gau i mewn yw llan. Mae'n elfen gyffredin iawn mewn enwau lleoedd Cymraeg, yn arbennig yn yr ystyr 'darn o dir cysegredig', gyda dros 630 o enghreifftiau.

Mae gwreiddiau'r gair yn hen iawn. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru mae'n deillio o'r gair Celteg tybiedig *landa o'r gwreiddyn *lendh- 'tir agored, rhos'.[1] Cytras iddo yw'r gair llannerch a'r gair Saesneg land. Yn yr ieithoedd Celtaidd eraill ceir geiriau cytras, fel lann ('eglwys; rhos, tir agored') yn Llydaweg a lann ('tir; adeilad, eglwys') yn y Wyddeleg, er enghraifft. O'r gair Galeg cytras *landa ceir y gair Ffrangeg lande ('rhos, tir garw').[1]

Yr ystyr gynharaf yn y Gymraeg, mae'n debyg, oedd 'darn o dir caeedig ar gyfer tyfu rhyw gynnyrch neu gadw eiddo', ac fe'i ceir yn yr ystyr honno mewn geiriau cyfansawdd fel coedlan (tir caeedig i dyfu coed), corlan (i gadw anifeiliaid), gwinllan (i winwydd), perllan (i ffrwythau), ydlan (i dyfu ŷd), ayb.[1]

Gyda dyfodiad Cristnogaeth ac amlhau eglwysi, datblygodd yr ystyr 'darn o dir cysegredig', yn enwedig y tir oddi amgylch eglwys, yn cynnwys y fynwent (ceir enghreifftiau o'r gair llan yn golygu 'mynwent' hefyd). Y cam nesaf oedd i'r gair llan ddod i olygu'r eglwys ei hun, a dyna a geir yn y rhan fwyaf o enwau lleoedd ar bentrefi a phlwyfi yng Nghymru sy'n dechrau gyda Llan-, fel arfer mewn cyplysiad ag enw sant, e.e. Llanllechid ('Eglwys Sant Llechid'). Tir oedd y llan honno a gyplysid â rhyw sant neilltuol, lle safai cell(au) neu glas gynnar. Weithiau cysylltid dau neu ragor o seintiau â llan ac yna ceir enwau lleoedd fel Llanddeusant, Llantrisant a Llanpumsaint.

Ceir enghreifftiau o enwau llannoedd sy'n disgrifio eu safle hefyd, e.e. Llan-faes (yn y maes agored), Llangoed (yn y coed), Llanllyfni (ger Afon Llyfni).[2]

Gall llan gyfeirio at yr Eglwys ei hun fel sefydliad yn ogystal, yn arbennig mewn cyferbyniaeth â'r byd seciwlar neu'r wladwriaeth, e.e. yn y dywediad 'mewn llan a llys' (h.y. ymhobman). Fel trosiad mae'n gallu golygu 'nefoedd' hefyd.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  llan. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
  2. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Lerpwl, 1945).