Wicipedia:Croeso, newydd-ddyfodiaid/Cyflwyniad

Oddi ar Wicipedia
Llwybr(au) brys:
WP:CROESO

Croeso! Rydym yn falch eich bod chi am gyfrannu at Wicipedia, a gobeithiwn eich bod yn mwynhau cyfranogi yn ei chymuned cymaint â ni. Fel cyfrannwr newydd, efallai y byddwch yn teimlo bod Wicipedia ychydig yn llethol oherwydd ei anferthedd! Hon yw'r wefan fwyaf yn y cosmos - gyda chyfartaledd o 2.7 miliwn o dudalennau'n cael eu hagor pob mis. Na phoenwch: daw popeth yn glir cyn hir wrth ichi fynd ati i o nerth i nerth yn dysgu sgiliau newydd wrth olygu. Os dewch o hyd i broblemau ar y ffordd, mae Wicipedwyr eraill ar gael sy'n awyddus i'ch helpu. Mae gennym lawer o adnoddau i'ch helpu: edrychwch ar y blwch Cymorth uchod. Pob lwc, a mwynhewch! -- Y Wicipedia Cymraeg.

Awgrymwn yn garedig eich bod yn cymryd cip ar Cyflwyniad i gychwyn ac yna'r cheat sheet: Canllaw Pum Munud lle mae'r côd-wici ar flaenau eich bysedd. Awgrymwn eich bod yn argraffu hwn a'i gadw wrth law.

Os ydych mewn ffwdan ac yn crafu eich pen - mae tudalen yn trafod ble i ofyn cwestiynnau a chael cymorth personol gan berson go-iawn: Wicipedia:Cysylltwch â ni am gymorth.

Awgrym neu ddau

Llofnodwch eich enw ar dudalennau sgwrs gan ychwanegu pedair sgwigl (~~~~) ar ôl eich cwestiwn; bydd hyn yn stampio'ch cwestiwn gyda'ch enw defnyddiwr ac amser cyflwyno.
Dechreuwch drwy chwilio am Gymry enwog yn y rhestr hon: Rhestr Cymry; efallai eich bod chi yno!
Sut mae tracio pwy sydd wedi dweud beth heddiw? Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud? Ar y chwith, top, fe welwch byd crwn Wicipeida; oddi tano ceir rhestr o ddolennau cyfleus. Cliciwch ar "Newidiadau Diweddar"... ac i ffwrdd â chi!