Aur i Ganada

Llongyfarchiadau mawr i hogia ifanc tîm hoci iâ Canada ….gêm wych a sgôr campus o 5- 1 yn erbyn Sweden neithiwr. Gêm mwy ecseiting o lawer nag ambell i gêm NHL dwi ‘di weld y tymor yma !

Darllen y post llawn »

Un o feirdd canoloesol pwysicaf Ewrop a ddaeth â chyffro i farddoniaeth Gymraeg.

Darllen y post llawn »

Rwy’n teimlo bod ‘na drafodaeth dda a phwysig (efallai) wedi codi ynghylch cywirdeb iaith. Dw i am wneud rhywbeth anarferol trwy ail-gyhoeddi’r post a’r sylwadau a’ch croesawi i wneud sylwad. Diawl, weithiau mae ychydig bach o ddiogi yn talu o…

Darllen y post llawn »

Un o’r ychydig raglenni sy’n werth gwrando arnynt ar Radio Cymru’r pnawn y dyddiau yma ydi Taro’r Post. I rywun sy’n ymddiddori (hyd obsesiwn yn fy achos i) mewn pobol a’u hagweddau, hiwmor a ffyrdd unigryw o fynegi eu hunain, mae unrhyw raglen sy’n seiliedig ar gyfraniadau byw gan y cyhoedd yn mynd i hoelio sylw.

Ia, ‘hoelio sylw’ ydi’r term mwyaf addas. Achos, er cymaint o hwyl sydd i’w gael

Darllen y post llawn »

glanhau’r stof

Mae’r stof yn wych. Mae o’n ein cynhesu ni’n braf. OND, rhaid glanhau’n gyson heb sôn am goed tân y mae’n rhaid darparu. Fi sy’n glanhau fel arfer. ‘Ngwr sy’n torri coed wedi’r cwbl. Chwarae teg. Gas gen i’r wres llethol wnâi daro fy wyneb tra byddw…

Darllen y post llawn »

Helo bobol
Dwi wrthi’n gwrando ar sesiwn newydd Llongau i raglen Lisa, ac mae’n hollol wych. Llongau ydy prosiect newydd (ish) Dyl Mei, ac mi ddylwn i ddeud yn syth mod i wedi gweithio lot hefo Dyl yn ddiweddar felly mae’n bosib nad ydw i’n gwbl ddi-duedd OND mae’r caneuon yn gret. Fel sa chi’n ei ddisgwyl mae’r cynhyrchu yn anhygoel - ma na ambell i foment gwirioneddol epig ar y caneuon, ond yn ddifyr iawn ma na hefyd adega lle ma’r geiria falla’n dangos ochr mwy bregus, emosiynol i Mr Dyl Mei. Ma na swn eitha llawn i’r caneuon - samples llinynnol, gitars, piano ayyb, ond does dim o ochr bombastic y Genod Droog yn fama - mae’n swnio’n llawer mwy didwyll. Dwi’n ama cewch eich synnu, a’ch siomi ar yr ochr ora.

Mi fydd y sesiwn ar raglen Lisa nos Wener nesa, Ionawr 16.
Hwyl
Gar

Darllen y post llawn »

Pam mae pawb yn credu fy mod i’n dymuno cael llyfrau fel anrhegion Nadolig? Efallai byswn wedi hoffi Nintendo Wii neu iPod- beth bynnag yw’r rheiny. Efallai bod pobol yn credu fy mod yn gallu hawlio am bethau fel ‘na…

Darllen y post llawn »

Di hwn ddim yn newyddion diweddar o gwbl (mis Tachwedd gafodd o’i lansio), ond meddwl ei fod yn werth ei grybwyll eto gan fod hi’n bwysig i sefydliadau ac unigolion ddechrau defnyddio’r meddalwedd hyn yn y Gymraeg os yw ar gael. Mae Meddal yn gwneud gwaith da iawn ar leoleiddio meddalwedd a dwi’n falch iawn [...]

Darllen y post llawn »

Tai Chi ydy’r peth! Mae canolfan ffitrwydd newydd agor yn y dre, ac dw i a fy merch 22 oed wedi ymaelodi. Rhesymol iawn ydy’r ffî, dim ond $30 y mis i deulu i gyd. Mae ‘na wersi amrywiol ar gael hefyd.Es i wers Tai Chi am y tro cynta erioed heno. Roed…

Darllen y post llawn »

Jacques Lu Cont

Dyn ifanc yw Jacques Lu Cont sydd yn rhyddhau cerddoriaeth wedi ei gymysgu yn ôl ei arddull. Un cymysgiad wnes i brynu sawl blwyddyn rwan yw Jacques Lu Cont’s Thin White Duke Mix o Mr. Brightside gan The Killers. Yn ogystal â’r fersiwn mwy ‘electronig’ ac esmwyth o Mr. Brightside dwi yn reit hoff o [...]

Darllen y post llawn »

Naturiaethwr ac arloeswr a ddatblygodd ddamcaniaeth esblygol ar wahân i Charles Darwin.

Darllen y post llawn »

Lol yn ei le #2

DYMA erthygl sy’n tystio eto bod pobol yn gwario pres ar lol. Pam ein bod ni’n barod i gredu rwtsh fel cynlluniau “detox”, dwch? Dim ond esgus i gwmniau ac unigolion wneud arian ydi o. Does yna ddim sail wyddonol i’r nonsens yma. Mae Ben Goldacre, awdur “Bad Science” (gweler isod, “Gwyddoniaeth yn rhoi lol [...]

Darllen y post llawn »

Oerrrr

Mae hi’n oer. Sylwoch chi?Does dim heater o fath yn y byd yn fy llofft i. Felly mae hi’n oer. Gwaeth na hynny, mae hi’n OER! Mi oedd gin i draethawd i wneud dros y penwythnos (y gwir? mi oedd y traethawd gin i ers 3 mis) ac oherwydd mod i angen fy nesg…

Darllen y post llawn »

Mae un o gryts fy nheulu yn wynebu argyfwng. Er ei fod yn un o selogion y “Spar Family Stand” ym Mharc Ninian penderfynodd y bychan ei fod am gael tîm i gefnogi yn uwch gynghrair Lloegr a chystadlaethau Ewrop….

Darllen y post llawn »

Cymru a Gwe 2.0

Yn ôl Google, prin yw’r canlyniadau call sydd yna ar gyfer y term “gwe 2.0”. Ydi hyn yn arwyddocaol, neu dim ond dangos bod bathiadau o dermau technoleg i’r Gymraeg yn cymryd amser i ffiltro drwodd? Dwi wedi bod yn meddwl lot yn ddiweddar am y we Gymraeg, neu’r diffyg felly, a falle bod angen [...]

Darllen y post llawn »

Vinyl 7 modfedd

Stori bach ddifyr am hanes senglau 7 modfedd.

Darllen y post llawn »

Blwyddyn newydd dda bobol!
Diwrnod cynta nol yn y gwaith, a’r peth cynta dwi angen ei wneud ydy gweld pwy sydd wedi bod yn gwneud be dros y gwylia - oes na unrhyw fandia wedi bod yn recordio, trefnu gigs neu unrhywbeth arall difyr. Dwi di gyrru ebost i ryw ddwsin o fandiau, felly gawn ni weld be ddaw yn ol…

Dwi hefyd yn awyddus iawn i glywed gan fandiau newydd, felly os da chi mewn grwp o unrhyw fath, bysa’n gret cael unrhyw draciau newydd. Mi fedrwch chi yrru mp3 ata i ar ebost neu yrru CD at Gareth Iwan Jones, BBC Radio Cymru, Bryn Meirion, Bangor, LL57 2BY. Dwi hefyd ar myspace
Felly gyrrwch eich caneuon asap!!!

Ar raglen Lisa nos Iau, dwi’n trio trefnu sgwrs am noson Kino Ankst sy’n digwydd nos Wener yn Galeri.
Cofion
Gar

Darllen y post llawn »

Iachawdwriaeth mai’n flwyddyn ryfedd hyd yn hyn. Heddiw fydd y diwrnod cyntaf o 2009 i mi fynd heb alcohol. Heblaw os cyfrwch chi ddoe, ond dwi ddim am wneud hynny oherwydd dydd Sul oedd ddoe ac mi fydda i’n swnio’n llai hardcôr os dyweda i hynn…

Darllen y post llawn »

Newyddion drwg

DYMA erthygl gan Roy Greenslade, y sylwebydd, sy’n proffwydo dyfodol tywyll i bapurau newydd.
      

Darllen y post llawn »

Byw A Dysgwch

Peidiwch chwarae gydag eich cath fach yn y gweli, erioed! Dysgais hyn ddoe pan es i’r gweli - neidiodd ar fy mhen ac wedyn rhedodd bant dros y gweli i aros rhywle tan symudais. Yn anffodus, gwes…..bŵm! Rhagod!
Roeddwn i’n darllen trwy Blog Chris Cope a dw i’n anghytuno - oer [...]

Darllen y post llawn »

Nesaf »