Pam fi Duw?!
Pam fi Duw?
Dyna'r neges a welwyd ar grys Mario Balotelli brynhawn Sul diwethaf wrth iddo chwalu Manchester United yn Old Trafford mewn perfformioad 'pyrotechnic' yn erbyn yr hen elynion.
Mae'r blaenwr dawnus, a ymunodd a Manchester City o Inter Milan wedi tynnu nyth cacwn ar ei ben fwy nac unwaith ers iddo gyrraedd gogledd Lloegr.
Daeth y bennod anffodus ddiweddaraf ar nos Sadwrn. Pan ddylai pob chwaraewr gwerth ei halen fod yn ymlacio ar gyfer gêm fawr, roedd yr Eidalwr a'i ffrindiau yn dathlu noson o dân gwyllt yng nghartref Mario.
Yn anffodus, doedd damwain ond rownd y gornel - a rhywsut neu'i gilydd fe aeth pethau'n 'cracyrs' pan daflwyd un o'r tân gwyllt i mewn i'r tŷ, gan roi'r ystafell ymolchi ar dân - a phopeth yn mynd allan o reolaeth!
Ie, Mario wedi mynd dros ben llestri eto - neu dros y bath y tro yma - a'r gwasanaeth tân yn cyrraedd i achub y dydd!
Ond buan iawn y cyhoeddodd Mario nad ef oedd y dihiryn y tro yma - ond ei ffrind!
Pam fi bob tro? Pam fi Duw? Ie, nid fi 'nath o syr - fo oedd y bai!
Pan oedd Syr Alex Ferguson yn cyfeirio at y 'cymdogion swnllyd' ar draws y ddinas - dwi ddim yn meddwl ei fod wedi rhagweld anturiaethau Mario a'r tân gwyllt!
Ond fe gafodd Man U eu llosgi mewn tipyn o goelcerth ar eu tomen eu hunain bnawn Sul - y 'bangers' a'r 'sparklers' i gyd yn perthyn i City, a gwyneb Roberto Mancini yn disgleirio fel 'Roman Candle' yn llawn syndod a rhyfeddod pan ddaeth y 'grande finale'!
Ond gwelodd mudiad i annog diogelwch tân gwyllt yn ardal Manceinion y cyfle i symud yn gyflym - llawn mor gyflym a Mario ar y cae, mae'n ymddangos, a llawer cyflymach na Wayne Rooney a'r 'duds' difflach!
Annogwyd Mario Balotelli i anfon neges y dylai pobol fod yn gyfrifol gyda than gwyllt, ac i ofalu eu defnyddio'n ddiogel.
Pam fi Duw? Wel Mario, gan dy fod wedi dangos pa mor hawdd ydi gweld chware'n troi chwerw wrth chwarae efo tân.
Ond diolch i'r blaenwr dawnus, mae wedi ymateb yn bositif, ac mae gwers oleuedig gwerth ei dysgu oddi wrth ei ddamwain anffodus.
Mae llun Mario i'w weld ar y posteri sydd yn galw am ymddygiad cyfrifol wrth ddefnyddio tan gwyllt, gan alw am sicrhau diogelwch a mabwysiadu ymddygiad cyfrifol wrth ddathlu disgleirdeb goleuedig noson tân gwyllt.
Gwyliwch y golau, a byddwch yn ddiogel.