Mae stiwdios a swyddfeydd gyda ni mewn amryw o leoliadau yng Nghymru
Rydym yn derbyn cannoedd o negeseuon bob wythnos. Cyn cysylltu â ni, efallai fod yr ateb yr ydych chi eisiau yma.
Mae hi’n costio’r un faint i ffonio rhifau 0370 (cyfradd ar draws y DU) â chodau daearyddol 01/02. Gellir recordio galwadau at ddibenion hyfforddiant. Mae galwadau i 0870 yn costio hyd at 6c y funud o linell BT (gall gwmnïau eraill a ffonau symudol amrywio).
^ Back to topOs nad ydych yn dod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn yn y rhestr yma, cysylltwch gyda ni drwy'r ffurflen arlein, ffoniwch 03703 500 700 (Llun-Gwener 9.30 y bore tan 7.30 yr hwyr), neu ysgrifennwch at Gwasanaethau'r Gynulleidfa BBC Cymru Wales, Bangor LL57 2BY. Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog felly mae croeso i chi gysylltu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Yn anffodus nid yw'n bosibl i ni ymateb yn bersonol i bob sylw, ond rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ac yn cofrestru pob sylw yn ofalus er sylw'r timau golygyddol a'r rheolwyr.
^ Back to topGweler adroddiadau o dan Sut Rhedir Ni yn y safle hon.
^ Back to topGweler pwy ydyn ni o dan Sut Rhedir Ni yn y safle hon. Mae'r BBC yng Nghymru yn atebol i'r gynulleidfa drwy Cyngor Cynulleidfa Cymru.
^ Back to topMae ein pencadlys yn Llandaf yng Nghaerdydd ac mae stiwdios a swyddfeydd hefyd ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth, Llanelwedd, Abertawe a Chaerfyrddin. Mae staff hefyd mewn amryw o leoliadau eraill yng Nghymru.
^ Back to topEwch i bbc.co.uk/careers am wybodaeth am swyddi yn y BBC ac am brofiad gwaith.
^ Back to topYn anffodus, oherwydd bod y BBC yn cael ei ariannu gan ffi'r drwydded nid yw'n bosib i ni roi eitemau fel gwobrau na rhoddion ariannol fel arfer, hyd yn oed at achosion da, ag eithrio nifer fechan iawn o apeliadau elusennol ac achosion sydd â chysylltiad agos â darlledu.
^ Back to topMae amserlenni llawn gwasanaethau teledu BBC Cymru ar gael ar bbc.co.uk/tv, neu ewch i s4c.co.uk/c_listings.shtml ar gyfer amserlen S4C. Gallwch weld amserlen BBC Radio Cymru ar bbc.co.uk/radiocymru/amserlen ac amserlen BBC Radio Wales ar bbc.co.uk/radiowales/programmes/schedules/fm.
^ Back to topMae amserlenni BBC One a BBC Two weithiau'n amrywio yng ngwahanol rannau'r DU. Gallwch chwilio bbc.co.uk/tv ar gyfer amseroedd rhaglenni neu mae'n bosib bod y rhaglen ar gael ar BBC iPlayer.
^ Back to topDim ond pan maen nhw ar gael yn fasnachol y mae modd cael copïau o raglenni a chyfresi'r BBC. Dylech wneud ymholiadau gyda masnachwyr lleol neu arlein i weld a ydy rhaglen benodol wedi ei ryddhau'n fasnachol. Gwybodaeth bellach...
Mae'n ddrwg gennym ni siomi selogion High Hopes ond nid yw'r gyfres hon wedi ei rhyddhau'n fasnachol.
Mae rhaglenni a ddarlledwyd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf yn aml ar gael ar safle BBC iPlayer.
^ Back to topGallwch gysylltu'n uniongyrchol gyda rhai rhaglenni drwy eu gwefannau ac mae nifer yn gwahodd pobl i gysylltu drwy gyfeiriad e-bost, cyfeiriad post neu rif ffôn penodol. Chwiliwch am y rhaglen dan sylw ar wefan bbc.co.uk/programmes.
^ Back to topMae safle Learn Welsh BBC Cymru yn cynnig nifer o gyfleusterau arlein ar gyfer dysgwyr. Ewch i bbc.co.uk/wales/learnwelsh.
^ Back to topEr mwyn cael rhestr o'r gorsafoedd DAB sydd ar gael yn eich ardal chi, rhowch eich côd post i mewn ar safle bbc.co.uk/reception/digitalradio.
Dim ond mewn ardaloedd lle mae rhanbarth (multiplex) DAB masnachol y mae BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales i'w cael. Ar hyn o bryd mae pedwar rhanbarth yn weithredol yng Nghymru - sef rhanbarth ardal Gogledd Ddwyrain Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, ardal Caerdydd a Chasnewydd, ardal Abertawe a Chanolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae trwydded leol DAB ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru wedi ei gyflwyno gan Ofcom. Pan fydd y gwasanaeth hwn yn cychwyn yn 2014 bydd 150,000 o gartrefi yn yr ardal hon yn gallu gwrando ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru ar DAB ynghyd â rhai gorsafoedd masnachol lleol. Yn anffodus nid oes dyddiad pendant ar gyfer cychwyn y gwasanaeth ar hyn o bryd.
Gallwch ddarllen am ddatblygiadau ar y gwefannau canlynol:
^ Back to topEwch i BBC iPlayer am ddewis eang o raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.
^ Back to topMae stiwdios a swyddfeydd gyda ni mewn amryw o leoliadau yng Nghymru
Dewch i fwynhau taith o gwmpas prif adeilad BBC Cymru Wales yn Llandaf
Rydym yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth yn y Gymraeg a Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru a'r D.U.
Braslun o'n hallbwn teledu yn genedlaethol ac ar y rhwydwaith yr wythnos hon
Braslun o'n hallbwn radio yn genedlaethol ac ar y rhwydwaith yr wythnos hon
BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.