Sut mae’n gweithio

Efallai y byddwch chi a’ch partner yn gallu cael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) os ydych yn:

  • cael babi
  • defnyddio mam fenthyg i gael babi
  • mabwysiadu plentyn
  • maethu plentyn rydych chi’n bwriadu ei fabwysiadu

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o dâl rhyngoch.

Mae angen i chi rannu’r tâl a’r absenoldeb yn y flwyddyn gyntaf ar ôl i’ch plentyn gael ei eni neu ei leoli gyda’ch teulu.

Gallwch ddefnyddio SPL i gymryd absenoldeb mewn blociau wedi’u gwahanu gan gyfnodau o waith, neu gymryd y cyfan ar yr un pryd. Gallwch hefyd ddewis bod i ffwrdd o’r gwaith gyda’ch gilydd neu rannu’r absenoldeb a’r tâl dros gyfnod.

I gael SPL ac ShPP, mae angen i chi a’ch partner:

Ildio absenoldeb a thâl mamolaeth neu absenoldeb a thâl mabwysiadu

I gael SPL ac ShPP mae’n rhaid i chi neu’ch partner:

  • cymryd llai na’r 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu a defnyddio’r gweddill fel SPL
  • cymryd llai na’r 39 wythnos o dâl mamolaeth neu dâl mabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) a defnyddio’r gweddill fel ShPP

Er enghraifft, os mai chi yw’r fam a’ch bod wedi cymryd 22 wythnos o Absenoldeb Mamolaeth a Thâl Mamolaeth Statudol, gallwch rannu 30 wythnos o SPL ac 17 wythnos o ShPP gyda’ch partner.