Herio cais am brofiant rhywun arall

Gallwch herio cais am brofiant rhywun arall (‘cofnodi cafeat’) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch:

Mae’r cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gallwch ei ymestyn am 6 mis arall. Mae’r cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gall cofnodi cafeat arwain at gamau cyfreithiol a chostau cyfreithiol. Dylech geisio dod i gytundeb gyda’r unigolyn sy’n gwneud y cais am brofiant yn gyntaf.

Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae yna reolau gwahanol ar sut i wneud cais am gafeat yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Sut i gofnodi cafeat

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Gallwch gofnodi cafeat eich hun, neu gallwch ddefnyddio cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi’i drwyddedu i ddarparu gwasanaethau profiant.

Os ydych yn cofnodi cafeat eich hun, gallwch: