Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Gallwch gael arian i’ch helpu gyda chostau byw os ydych yn nesáu at ddiwedd oes o ganlyniad i salwch.

Os yw eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw, efallai y gallwch:

  • gael budd-daliadau ar gyfradd uwch neu gael arian ychwanegol
  • ddechrau cael taliadau yn gyflymach na’r arfer

Weithiau gelwir hyn yn ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Os cewch reolau arbennig am 3 blynedd, caiff eich cais ei adolygu.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud eich cais

Gallwch wneud cais am fudd-daliadau ar unwaith.

Dylech hefyd ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen SR1 fel y gallwch gael y budd-dal rydych wedi gwneud cais amdano o dan reolau arbennig. Bydd ganddynt y ffurflen.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cynnwys:

  • meddygon teulu
  • meddygon mewn ysbytai
  • nyrsys cofrestredig (er enghraifft, nyrsys Macmillan neu nyrsys arbenigol)

Byddant yn anfon y ffurflen i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i gefnogi eich cais am fudd-dal, neu gallwch ei anfon eich hun. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dim ond un ffurflen SR1 y byddwch ei hangen, hyd yn oed os ydych yn gwneud cais am fwy nag un budd-dal.

Gwneud cais ar ran rhywun arall

Bydd angen i chi ddod yn benodai i wneud cais ar ran rhywun arall, oni bai eich bod yn gwneud cais am:

  • Lwfans Gweini
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer plant

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini. Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch i fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Gweini.

Gallwch wneud cais eich hun neu gall rhywun arall ei wneud ar eich rhan. Darganfyddwch sut i wneud cais am Lwfans Gweini.

Os ydych yn cael Lwfans Gweini neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion yn barod ond mae eich cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl i chi fyw mwy na 12 mis, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn 16 oed neu drosodd ac heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael y budd-daliadau hyn

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Credyd Cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Efallai y byddwch yn gymwys i gael 2 neu 3 o’r budd-daliadau hyn ar yr un pryd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Gallwch wneud cais am ESA er mwyn derbyn help gyda chostau os ydych chi’n sâl neu’n anabl ac yn methu gweithio. Darganfyddwch sut i hawlio ESA.

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael ESA ond mae eich cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl i chi fyw am fwy na 12 mis.

Credyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol I’ch helpu gyda chostau byw os ydych chi ar incwm isel neu allan o waith. Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys.

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ond mae eich cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl i chi fyw am fwy na 12 mis.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Darganfyddwch sut i wneud cais am PIP os gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw.

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael PIP ond bod eich cyflwr wedi gwaethygu ac nad oes disgwyl i chi fyw mwy na 12 mis.

Os ydych eisoes yn cael DLA i oedolion

Mae DLA i oedolion wedi’i ddisodli gan PIP. Os ydych eisoes yn cael DLA i oedolion ond bod eich cyflwr wedi gwaethygu ac nad oes disgwyl i chi fyw mwy na 12 mis, gallwch gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Os gallai fod gan eich plentyn 12 mis neu lai i fyw

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer plant

Mae DLA ar gyfer plant yn helpu gyda chostau ychwanegol os yw’ch plentyn o dan 16 oed ac yn cael anhawster cerdded neu angen gofal ychwanegol. Os yw’ch plentyn yn 16 oed neu’n hŷn gallwch wneud cais am PIP yn lle hynny.

Darganfyddwch sut i wneud cais am DLA ar gyfer plant.

Mae angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael DLA i blant ond bod cyflwr y plentyn wedi gwaethygu ac nad oes disgwyl iddynt fyw mwy na 12 mis.

Os ydych yn gymwys, fe allech gael Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar yr un pryd â’r DLA ar gyfer plant.

Os ydych yn gofalu am rywun

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth ariannol os ydych yn gofalu am rywun sy’n nesáu at ddiwedd oes.

Os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos gwiriwch os gallwch gael Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos a’ch bod chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch os gallwch gael Credyd Gofalwr.

Help a Chymorth

Os oes angen cymorth arnoch ar ôl eich diagnosis neu wrth wneud cais am fudd-daliadau gallwch gael help gan y canlynol: