Hawl

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Gall cyflogeion cymwys gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mamolaeth Cyffredin’, a’r 26 wythnos olaf fel ‘Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol’.

Y cynharaf y gellir cymryd absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni, oni bai bod y babi yn cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i gyflogeion gymryd o leiaf 2 wythnos ar ôl yr enedigaeth (neu 4 wythnos os ydynt yn gweithio mewn ffatri).

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Gellir talu Tâl Mamolaeth Statudol ar gyfer cyflogeion cymwys am hyd at 39 wythnos, fel arfer fel a ganlyn:

  • y 6 wythnos gyntaf: 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog cyn treth
  • y 33 wythnos sy’n weddill: £184.03 neu 90% o’u henillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf)

Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Tâl Mamolaeth Statudol i gyfrifo absenoldeb a thâl mamolaeth cyflogai.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl.

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun mamolaeth cwmni. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau absenoldeb a thâl mamolaeth yn eglur ac ar gael i staff.

Os yw’r babi yn cael ei eni’n gynnar

Mae absenoldeb yn dechrau’r diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r babi’n cael ei eni’n gynnar.

Mae’n rhaid i’r cyflogai roi tystysgrif geni’r plentyn i chi neu ddogfen wedi’i llofnodi gan feddyg neu fydwraig sy’n cadarnhau’r union ddyddiad geni.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at eich cyflogai er mwyn cadarnhau’r dyddiad newydd y bydd ei habsenoldeb yn dod i ben.

Ar gyfer genedigaethau cynamserol iawn pan fo’r plentyn yn cael ei eni 15 wythnos neu fwy cyn y dyddiad disgwyl, bydd angen i chi gyfrifo Tâl Mamolaeth Statudol gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres (os oes ganddi’r nodwedd hon) neu ei gyfrifo â llaw.

Os yw’r babi’n marw

Mae cyflogeion yn dal i fod yn gymwys i gael absenoldeb neu dâl os yw’r babi:

  • yn farw-anedig ar ôl dechrau 24ain wythnos y beichiogrwydd
  • yn marw ar ôl cael ei eni

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth y cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mamolaeth.

Mae’n dal yn rhaid i chi dalu Tâl Mamolaeth Statudol, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.