Defnyddio neu ganslo atwrneiaeth barhaus

Dogfen yw atwrneiaeth barhaus (EPA) sy’n penodi rhywun (‘atwrnai’) i helpu i ofalu am eich eiddo, arian a materion ariannol.

Bydd eich atwrnai’n gallu eich helpu i wneud penderfyniadau neu’n gwneud penderfyniadau ar eich rhan os ydych, er enghraifft, yn cael damwain neu’n mynd yn sâl ac ni allwch wneud penderfyniad penodol pan fo angen ei wneud (nid oes ‘galluedd meddyliol’ gennych).

Cafodd yr EPA ei ddisodli gan yr atwrneiaeth arhosol (LPA) eiddo a materion ariannol ym mis Hydref 2007. Gallwch sefydlu LPA newydd.

Os gwnaethoch EPA a gafodd ei lofnodi a’i dystio cyn mis Hydref 2007, gallwch naill ai:

  • parhau i’w ddefnyddio
  • ei ganslo a sefydlu LPA eiddo a materion ariannol

Gallwch hefyd ddewis gwneud LPA iechyd a lles.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddio atwrneiaeth barhaus

Tra byddwch dal gyda galluedd meddyliol, gallwch adael i’ch atwrnai ddefnyddio EPA i’ch helpu i ofalu am eich materion ariannol.

Bydd angen i chi neu eich atwrnai ddangos copïau wedi eu llofnodi o’ch EPA i fanciau a darparwyr ariannol fel bod eich atwrnai’n gallu gofalu am eich cyfrifon.

Ni allwch newid EPA sy’n bodoli’n barod. Dylech ei ganslo a chreu LPA yn ei le.

Pan fydd angen cofrestru eich EPA

Os collwch eich galluedd meddyliol rhaid i’ch atwrnai cofrestru’r EPA i ddechrau neu i barhau i’w ddefnyddio.

Pan fydd wedi’i gofrestru, rhaid i’ch atwrnai:

  • eich cynnwys mewn gwneud penderfyniadau ar bob cyfle
  • dim ond gwneud penderfyniadau na allwch eu gwneud eich hun
  • dilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roesoch yn eich EPA

Gallwch ddewis gwrthwynebu i gofrestru EPA.

Canslo EPA sydd heb ei gofrestru

I ganslo EPA cyn i chi golli galluedd meddyliol, dylech wneud ‘gweithred ddiddymu’ yn dweud eich bod yn ei ganslo a chadw’r weithred gyda’r ffurflen EPA. Rhaid i chi a thyst lofnodi’r weithred ddiddymu hon.

Peidiwch ag anfon yr EPA heb ei gofrestru, a’r weithred ddiddymu, i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus – chi ddylai eu cadw.

Rhaid i chi roi gwybod i’ch atwrnai neu atwrneiod, ac unrhyw fanciau a darparwyr ariannol perthnasol, eich bod yn canslo eich EPA.

Defnyddiwch y geiriau canlynol gan roi’r manylion perthnasol yn lle’r geiriau mewn cromfachau sgwâr:

Gweithred ddiddymu

“Mae’r weithred ddiddymu hon wedi’i gwneud gan [eich enw] o [eich cyfeiriad].

1: Penderfynais sefydlu atwrneiaeth barhaus ar [y dyddiad y gwnaethoch lofnodi’r atwrneiaeth barhaus] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai / atwrneiod.

2: Rwyf yn diddymu’r atwrneiaeth barhaus hwn a’r awdurdod a roddir drwyddo.

Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [eich llofnod]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]”

Canslo EPA wedi cael ei gofrestru

Dylech wneud cais i’r Llys Gwarchod i ganslo EPA wedi’i gofrestru drwy lenwi ac anfon:

Mae’n costio £371 i wneud cais i ddiddymu EPA. Dylid anfon siec am £371 yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’ gyda’ch ffurflenni i’r Llys Gwarchod.

Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
London
WC1A 9JA

Daw eich EPA i ben pan fyddwch yn marw. Rhaid i’ch atwrneiod hysbysu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Talu ffi lai neu gael eich eithrio rhag gorfod talu’r ffi

Efallai na fydd raid i chi dalu’r ffioedd os ydych ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau prawf modd.

Dylech lawrlwytho’r ffurflen i weld a ydych yn gymwys ac i wneud cais.

Ar ôl i chi wneud cais i ganslo

Gallai fod angen i chi ddangos tystiolaeth bod gennych dal alluedd meddyliol.

Byddwch yn cael penderfyniad gan y llys o fewn 16 wythnos.

Gallwch ddewis gwneud LPA eiddo a materion ariannol ar ôl canslo eich EPA.