Ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd

Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffi os byddwch yn mynd i lys neu dribiwnlys yng Nghymru neu Lloegr.

Os oes gennych ychydig neu ddim cynilion o gwbl, os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael gostyngiad ar eich ffioedd llys neu dribiwnlys.

Mae ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd yn wahanol i gostau cyfreithiol, er enghraifft talu am gyfreithiwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae system gwahanol ar gyfer ffioedd llys yn Yr Alban a ffioedd llys yng Ngogledd Iwerddon.

Faint i dalu

Mae’r ffioedd y bydd rhaid i chi eu talu mewn llys neu dribiwnlys yn dibynnu ar eich hawliad neu achos. Efallai bydd rhaid i chi dalu sawl ffi, er enghraifft ffi gwrandawiad a ffi cais.

Achos Ffi
Ysgariad neu ddod â phartneriaeth sifil i ben £593
Hawlio arian sy’n ddyledus i chi £35 i £10,000 - yn ddibynnol ar y swm rydych yn hawlio
Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch budd-dal Am ddim
Gwneud cais am fethdaliad £680
Gwneud cais am brofiant Am ddim neu £273 - yn ddibynnol ar werth yr ystad

Darllenwch y rhestr ffioedd ar gyfer:

Sut i dalu eich ffi llys neu dribiwnlys

Gallwch dalu’r llys neu’r tribiwnlys:

  • dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd
  • yn bersonol gyda siec, arian parod, cerdyn debyd neu gerdyn credyd
  • ar-lein

Gofynnwch i’r llys neu’r tribiwnlys os gallwch dalu dros y ffôn, yn bersonol neu ar-lein. Efallai y bydd angen i chi drefnu apwyntiad i dalu’n bersonol.

Gellir talu rhai ffioedd drwy’r post gyda siec. Gofynnwch i’r llys neu dribiwnlys am fanylion, gan gynnwys y cyfeiriad y dylid anfon y siec iddo. Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM’.

Rhaid i chi dalu ffioedd ar-lein pan fyddwch yn defnyddio gwasanaeth ar-lein, er enghraifft i gwneud hawliad am arian i’r llys.