Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’r dreth a’r Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus o’ch Cytundeb Setliad TWE (PSA) erbyn 22 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Talu ar-lein

Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosbau a llog os yw’ch taliad yn hwyr.

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

  • Debyd Uniongyrchol (taliad untro)

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Dulliau eraill o dalu

Gallwch ddewis talu drwy ddulliau eraill. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.

Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf

3 diwrnod gwaith neu fwy

5 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).